Mae perchnogion sŵ yng ngogledd Ceredigion yn dweud eu bod yn “nes at ddal” lyncs sydd wedi bod ar ffo ers yr wythnos ddiwethaf.

Er nad yw perchnogion Animalarium Borth yn hollol siŵr pryd ddiflannodd ‘Lilleth’, mae’n debyg ei bod wedi bod ar ffo ers Hydref 24.

Y gred yw bod yr anifail wedi ffoi trwy ddringo canghennau a neidio dros ffens drydan.

Mae staff y sŵ, ynghyd ag arbenigwyr, wedi bod yn dilyn yr anifail dros y 24 awr ddiwethaf, ac wedi gosod trapiau ac abwyd er mwyn ceisio ei ddenu yn ôl.

Mewn “hwyliau da”

Mewn neges ar wefan gymdeithasol Facebook, mae Animalarium y Borth yn awgrymu bod staff yn “agos iawn” at ddal y lyncs.

“Eisteddais yn ei gwylio am ddeg munud y prynhawn yma,” meddai un neges. “Roedd hi’n eistedd yn ymolchi, rhyw ddeg medr i ffwrdd. Roedd Lilleth yn edrych fel ei bod mewn cyflwr ac mewn hwyliau da.”

Bydd y sŵ yn parhau i fod ar gau heddiw (dydd Mercher) ac mae’r perchnogion wedi galw ar i’r  cyhoedd osgoi’r ardal er mwyn hwyluso’r broses o ddal y lyncs.