Mae Llywodraeth Prydain yn cydnabod gwerth S4C, wrth i adolygiad annibynnol sy’n cael ei gynnal i gylch gwaith y sianel Gymraeg fynd rhagddo.

Heddiw, mae hi’n 35 mlynedd union ers darlledu’r rhaglen gyntaf yn 1982.

Mae’r adolygiad annibynnol – dan gadeiryddiaeth Euryn Ogwen Williams – yn dal i fynd yn ei flaen wrth iddyn nhw edrych i gylch gorchwyl, trefniadau cyllido a llywodraethu S4C.

Yr Egin a Phrif Weithredwr newydd

“Mae’r pen-blwydd hwn hefyd yn bwysig i’n hatgoffa o’r rhan y gall y diwydiannau creadigol eu chwarae yng nghyswllt gyrru twf drwy greu swyddi a denu mewnfuddsoddi,” meddai Guto Bebb, Is-Ysgrifennydd Cymru.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi pwysleisio droeon ei hymrwymiad i gael gwasanaeth teledu annibynnol a chryf yn yr iaith Gymraeg. Rydym eisiau gweld y sianel yn ffynnu ac yn croesawu cyfleoedd yr oes ddigidol.

“Mae’r sianel a’i chynnwys yn gwneud cyfraniad pwysig at fywyd diwylliannol ac economaidd Cymru, ffyniant y Gymraeg a chryfder ein sector creadigol,” meddai wedyn.

Yn rhan o hyn mae’r gwaith o ddatblygu Canolfan Yr Egin yng Nghaerfyrddin yn parhau a hynny wedi i S4C gael benthyciad o £10 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i symud y pencadlys o Gaerdydd i’r gorllewin.

Ac mae’n fis union bellach ers i Owen Evans gydio yn yr awenau yn Brif Weithredwr newydd S4C.