heno’n Nos Galan Gaeaf, mae elusen wedi rhybuddio’r cyhoedd am beryglon llusernau awyr – sky lanterns – a’u heffaith ar fywyd gwyllt.

Mae’r dyfeisiau bach papur yn codi i’r awyr ar ôl i gannwyll ar y tu fewn gael ei chynnau, ac maen nhw erbyn hyn yn boblogaidd adeg dathliadau Calan Gaeaf.

Ond, yn ôl RSPCA Cymru mae’r llusernau yn peri bygythiad “angheuol” i anifeiliaid ac mae’r elusen am eu gweld yn cael eu gwahardd yn llwyr yng Nghymru.

Mae’r elusen yn nodi bod anifeiliaid yn aml yn ceisio bwyta gweddillion y llusernau – gan niweidio’u stumogau – neu yn mynd yn sownd ynddyn nhw.

Hefyd mae’r llusernau yn medru rhoi cynefinoedd anifeiliaid ar dân, yn ôl RSPCA Cymru.

Peryglus nid pert

“Mae llusernau awyr yn edrych yn eithaf pert – ond mewn gwirionedd, maen nhw’n eithaf peryglus” meddai Rheolwr Ymgyrchoedd Gwleidyddol RSPCA Cymru, Martin Fidler Jones.

“Rydym yn gwybod bod llusernau awyr yn rhan boblogaidd o ddathliadau Calan Gaeaf – ond mae’n bwysig fod pobol yn gwybod eu bod yn peri bygythiad angheuol i anifeiliaid.”

“Galwn ar bobol ledled Cymru i ystyried opsiynau eraill sydd yn fwy diogel – er enghraifft, canhwyllau a llusernau sydd ddim yn symud.”