Mae dyfroedd ymdrochi Cymru yn cael eu hystyried “ymhlith y rhai gorau yn Ewrop” yn ôl pennaeth Cyfoeth Naturiol Cymru.
Daw’r sylw yn sgil ystadegau sydd yn dangos bod 99% o ddyfroedd ymdrochi Cymru – gan gynnwys llynnoedd a thraethau – yn cydymffurfio â safonau Ewrop.
Eleni mae 103 o’r 104 ardal ymdrochi yng Nghymru yn cydymffurfio â’r safonau, tra bod 80 o’r dyfroedd yma yn “ardderchog”.
Ymysg y dyfroedd ardderchog mae Porthcawl, Dinbych-y-Pysgod, Prestatyn a’r Barri.
“Arbennig o falch”
“Rydyn ni’n arbennig o falch o hyn gan fod yr haf gwlyb wedi cael effaith uniongyrchol ar ansawdd dŵr ar draws y Deyrnas Unedig,” meddai Prif Weithredwr Dros Dro Cyfoeth Naturiol Cymru, Kevin Ingram.
“Rydyn ni’n deall mor werthfawr yw ein traethau i’r bobl sy’n byw ger arfordir Cymru ac i ymwelwyr. Byddwn yn parhau i gydweithio â chymunedau, Dŵr Cymru a’r awdurdodau lleol i gynnal a gwella glendid ein dyfroedd ymdrochi.”