Mae Gweinidog y Gymraeg yn dweud ei fod eisiau rhoi’r pwyslais ar hybu a hyrwyddo, nid cwyno a chosbi, wrth geisio cyrraedd at filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Ac, wrth ymateb i lythyr beirniadol gan fudiadau iaith, fe ofynnodd Alun Davies i wrthwynebwyr ei bolisi iaith i “beidio â bod mor negyddol” ac i “feddwl yn fwy radical”.

Mae’r casgliad o fudiadau ‘Dathlu’r Gymraeg’ wedi galw am ailystyried y bwriad i gael gwared ar swydd Comisiynydd y Gymraeg.

Ond fe ddywedodd Alun Davies wrth y BBC ei fod yn “cael gwared ar y swydd ond nid y swyddogaeth”.

Hyrwyddo

“Yn lle cwyno a chosbi, dw i eisiau canolbwyntio ar hybu a hyrwyddo,” meddai Alun Davies wrth i ymgynghori ddod i ben ar fwriad i gael deddf iaith newydd.

Fe fyddai honno’n cael gwared ar swydd y Comisiynydd ac yn creu Comisiwn newydd, tebycach i hen Fwrdd yr Iaith.

Mae’r Ombwdsman gwasanaethau cyhoeddus wedi awgrymu y dylai gofal am gwynion iaith ddod i’w swyddfa ef.

“R’yn ni’n creu hawliau i rai ond ddim i bawb,” meddai Alun Davies. “D’yn ni ddim yn cyrraedd y bobol sydd am ein helpu ni i gyrraedd miliwn o siaradwyr mewn 30 mlynedd.”