Bydd Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru yn ymweld â phencadlys Sefydliad Masnach y Byd (WTO) yng Ngenefa’r wythnos hon, er mwyn trafod dyfodol Cymru wedi Brexit.

Bydd Ken Skates yn cwrdd ag aelodau’r sefydliad gyda’r nod o ddysgu mwy am sut y gall Cymru ddylanwadu ar berthynas y Deyrnas Unedig â’r WTO yn y dyfodol.

Bydd y Gweinidog hefyd yn cwrdd â busnesau lleol mewn ymdrech i ddatblygu’r berthynas fasnachu rhwng busnesau yng Nghymru â’r Swistir.

Diogelu diwydiannau

“Rwy’n awyddus i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli’n deg [ym mhroses Brexit],” meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates,

“Mae diogelu ein diwydiant dur, ein sector technoleg sy’n tyfu, ein sector ynni a’n trefniadau tollau yn gyffredinol yn hanfodol wrth i ni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.”

“A bydd yn hollbwysig i’n hymdrechion parhaus i ddatblygu economi Cymru ffyniannus a fydd o fudd i bobl ar hyd a lled y wlad.”