Mae cwmni Arriva wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhoi’r gorau i redeg gwasanaethau trên Cymru a’r Gororau.

Yn ôl llefarydd ar ran corff Trafnidiaeth Cymru mae Arriva “wedi bod yn glir mai rhesymau masnachol sydd y tu ôl i’r penderfyniad.”

Mae’r broses dendro yn parhau, gyda thri chwmni rhyngwladol yn cael eu hystyried o hyd – KeolisAmey, MTR Corporation a’r Abellio Group.

Mae Arriva wedi bod yn rhedeg y gwasanaeth yng Nghymru ers 2003 ac mi fyddan nhw’n trosglwyddo’r awenau i’w holynydd yn 2018.

Prif flaenoriaeth

“Ein prif flaenoriaeth yn sgil y cyhoeddiad yw canolbwyntio ar ddarparu ein gwasanaethau i bobol a chymunedau sydd yn dibynnu arnom tan fydd ein cyfnod yn dod i ben,” meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Trenau Arriva Cymru, Tom Joyner.

“Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid yn y llywodraeth ac yn y diwydiant er mwyn eu cynorthwyo nhw o ran gwireddu eu blaenoriaethau.”

“Cyfle euraidd”

“Mae’n ymddangos eu bod wedi tynnu allan oherwydd dydyn nhw ddim yn medru ennill digon o arian,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT), Mick Cash.

“Dyma gyfle euraidd i bobl Cymru adennill rheolaeth dros eu rheilffyrdd trwy berchnogaeth gyhoeddus, a dylwn gipio’r cyfle hynna ag awch.”