Roedd hyfforddwr ffitrwydd sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio ei ferch fabwysiedig, wedi “gafael yn” ac yna “ysgwyd” y ferch fach, clywodd Llys y Goron Caerdydd heddiw.
Mae Matthew Scully-Hicks, 31, yn gwadu achosi anafiadau difrifol i Elsie Scully-Hicks, a oedd yn 18 mis oed, ym mis Mai 2016.
Roedd Elsie wedi cael ei mabwysiadu’n ffurfiol gan Matthew Scully-Hicks a’i ŵr Craig Scully-Hicks, 36, bythefnos yn unig cyn iddi farw.
Mae Matthew Scully-Hicks yn gwadu llofruddio’r ferch fach yng nghartref y cwpl yn Llandaf, Caerdydd ar 29 Mai.
“Ysgwyd”
Dywedodd Paul Lewis QC ar ran yr erlyniad bod y diffynnydd wedi achosi marwolaeth Elsie, ynghyd a chyfres o anafiadau cyn iddi farw.
Wrth gyflwyno ei araith gloi i’r rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd dywedodd Paul Lewis QC bod Matthew Scully-Hicks wedi “gafael yn ei ferch a’i hysgwyd a tharo ei phen yn erbyn rhywbeth caled, neu wedi defnyddio gwrthrych caled i’w tharo ar gefn ei phen.
“Roedd yr anafiadau a ddioddefodd Elsie yn ddifrifol.”
Yn ei araith gloi, dywedodd Robert O’Sullivan QC ar ran Matthew Scully-Hicks, nad oedd yn glir beth oedd wedi digwydd i Elsie cyn iddi gael ei tharo’n wael ar 25 Mai. Nid yw’r ffaith nad oedd Matthew Scully-Hicks yn gallu egluro sut y cafodd ei hanafu yn profi achos yr erlyniad, meddai.
Cafodd yr achos ei ohirio tan ddydd Mawrth.