Mi fydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gwneud cais i’r chwaraewyr wisgo’r pabi coch yn ystod eu gêm gyfeillgar nesaf yn erbyn Ffrainc.

Ym mis Medi fe wnaeth yr asiantaeth bêl-droed rhyngwladol, FIFA, godi’r gwaharddiad a oedd yn cosbi chwaraewyr am wisgo pabïau yn ystod gemau rhyngwladol.

Fe fydd yn rhaid i’r Gymdeithas Bêl-droed gael caniatâd gan FIFA a Ffrainc er mwyn gwisgo’r pabïau yn eu gêm ar Dachwedd 10 ym Mharis.

Cefndir

Fe gafodd Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr oll eu cosbi ym mis Tachwedd y llynedd yn ystod gemau cymhwyso Cwpan y Byd am fynd yn groes i reolau FIFA a gwisgo’r pabïau.

Mewn datganiad ar y cyd mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud ei bod hi’n bwysig i gael “eglurdeb” ar y mater hwn am ei fod yn “effeithio nifer o gemau/ cystadlaethau pêl-droed o gwmpas y byd ac o help mawr mewn perthynas â chofio a phabïau.”

Yn ôl FIFA roedd y pabïau’n disgyn o dan eu rheolau i wahardd symbolau neu sloganau crefyddol, personol neu wleidyddol.