Mae pobol yng Ngheredigion wedi cael rhybudd i fod yn wyliadwrus, wedi i gath wyllt ffoi o sw yn Borth.

 

Mae Heddlu Dyfed Powys yn credu bod yr anifail wedi diflannu rhywbryd rhwng Hydref 24 a Hydref 29, a’i bod yn parhau i fod yn weddol agos i’r sw.

 

Mae’r gath wyllt – neu’r ‘lyncs’ – yn debygol o aros draw rhag pobol, ond mae’n bosib y bydd yn ceisio ymosod ar dda byw ac anifeiliaid anwes.

 

Dylai’r cyhoedd gadw pellter rhyngddyn nhw a’r creadur os ydyn nhw’n dod ar ei thraws, oherwydd gallai droi’n ymosodol os caiff ei bygwth.

 

Mae’r heddlu yn erfyn ar unrhyw un sydd wedi gweld yr anifail i gysylltu â nhw a trwy ffonio 101. Dylai unrhyw un sydd yn gweld y gath wyllt yn ymosod ar anifail, ffonio 999.