Mae Heddlu’r Gogledd yn parhau i ymchwilio i farwolaeth bachgen 16 oed yn Sir Conwy y credir oedd wedi cymryd tabledi ecstasi mewn parti Calan Gaeaf.

Credir bod y bachgen, sydd heb gael ei enwi, wedi cymryd y tabledi pinc, gyda’r symbol Rolls Royce arnyn nhw, pan oedd mewn parti yng Ngwytherin ger Llanrwst, yn oriau man bore dydd Sul.

Y gred yw fod y bachgen wedi marw o ganlyniad i orddos o gyffuriau.

Rhybudd

Mae Heddlu’r Gogledd a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi rhybuddio unrhyw un a oedd wedi cymryd y tabledi ac sy’n teimlo’n sâl i fynd i’r ysbyty ar frys.

Maen nhw hefyd wedi rhybuddio unrhyw un sydd a’r tabledi yn eu meddiant i beidio eu cymryd.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Gareth Evans bod hyn yn “ddigwyddiad wirioneddol drasig lle mae bachgen ifanc wedi colli ei fywyd.

“Mae ein meddyliau gyda’i deulu a’r ffrindiau yn ystod y cyfnod hynod o anodd yma ac maen nhw’n cael cymorth gan swyddogion cyswllt arbenigol.”

Beth ddigwyddodd

Cafodd yr heddlu eu galw i’r parti Calan Gaeaf gan staff y Gwasanaeth Ambiwlans toc wedi 1yb ddydd Sul ar ôl i’r bachgen gael ei daro’n wael.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan lle bu farw.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod V164084.