Mae Stephen Crabb wedi ymddiheuro yn dilyn rhagor o honiadau ynghylch ei ymddygiad rhywiol.

Fe ddaeth i’r amlwg ei fod e wedi anfon negeseuon testun o natur rywiol at ddynes 19 oed ar ôl iddi gael cyfweliad am swydd yn 2013 pan oedd e’n gweithio yn swyddfa Ysgrifennydd Cymru.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Breseli Sir Benfro ei fod e wedi bod yn “ffôl”.

Ond mae’n gwadu iddo gael perthynas rywiol â’r ddynes.

Dywedodd wrth y Mail on Sunday nad oedd y negeseuon yn “ddifrifol”, a’i fod e wedi cael coffi â’r ddynes “sawl gwaith” a “gwydryn o win unwaith”.

Ymddiswyddodd o Gabinet Llywodraeth Prydain y llynedd yn dilyn adroddiadau o ddigwyddiad tebyg.