Dylai unrhyw benderfyniadau ar ddyfodol S4C gael eu gwneud yng Nghymru ac nid yn San Steffan, yn ôl Plaid Cymru mewn ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Prydain ar ddyfodol y sianel.

Wrth alw am ddatganoli’r cyfrifoldeb am ddarlledu i’r Cynulliad, mae Plaid Cymru’n dadlau ei bod yn “anghyson” fod y grym i gyllido darlledu cyhoeddus S4C yn gorwedd gyda llywodraeth Prydain yn hytrach na Llywodraeth Cymru. Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Ben Lake AS:

“Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am yr iaith Gymraeg, ac y mae hynny’n iawn, ond does ganddyn nhw ddim llais dros S4C sef, o bosib, yr erfyn mwyaf pwerus i’w hyrwyddo.

“Ni ddylai penderfyniadau mor dyngedfennol fod yn nwylo San Steffan – gyda gwleidyddion sydd yn aml heb unrhyw gefndir na theimlad dros y materion sy’n ymwneud a’r iaith.

“Mae S4C yn bwysig i Gymru yn ddiwylliannol, economaidd ac hyn  ieithyddol. Dyw hi ond yn iawn i bobl Cymru a’u cynrychiolwyr etholedig bennu ei dyfodol, nid gwleidyddion San Steffan sy’n cynrychioli gwlad arall.”