Mae tair o drefi Cymru wedi ennill gwobrau ym mhrif wobrau Prydain yn ei Blodau y Cymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS).
Mewn seremoni yn Llandudno neithiwr, cafodd Bryn Buga yn Sir Fynwy ei enwi fel cyd-enillydd y categori Pentref Mawr gyda Market Bosworth yng nghanolbarth Lloegr.
Cafodd Llandudno ei hun hefyd fedal aur a chlod uchel yn y categori cymunedau arfordirol gyda phoblogaeth o dros 12,000.
Y dref arall yng Nghymru i lwyddo oedd Pembre a Phorth Tywyn a gafodd fedal arian.
Roedd beirniaid yr RHS wedi ymweld â 78 o drefi a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol dros yr haf ac wedi asesu pob un o safbwynt tri maen prawf, sef gweithgarwch y gymuned, cyfrifoldeb amgylcheddol a llwyddiant garddwriaethol.