Mae’n well gan dwristiaid o Gymru dreulio eu gwyliau yn y Deyrnas Unedig yn hytrach nag mewn gwledydd tramor, yn ôl arolwg diweddar.

Yn ôl astudiaeth Rentalcars.com, mae dros hanner (53%) o Gymry yn ffafrio treulio eu prif wyliau yn y Deyrnas Unedig.

O ran gweithgareddau’r gwyliau mae’n debyg mai torheulo yw hoff weithgaredd y Cymry gyda 79% yn dweud eu bod yn mwynhau ymlacio yn yr haul.

Mae tri chwarter o bobol Cymru yn mwynhau cysgu yn ystod y gwyliau tra bod 58% yn mwynhau gweithgareddau mwy bywiog gan gynnwys cerdded a seiclo.

Dywedodd chwarter o bobol wnaeth gyfrannu at yr astudiaeth, eu bod yn mynd ar wyliau unwaith y flwyddyn tra bod chwarter arall yn teithio hyd at dair gwaith y flwyddyn.