Fe allai hen dre marchnad Tregaron yng Ngheredigion ddatblygu yn ganolfan bwysig a llwyddiannus i hyrwyddo celf Gymreig, yn ôl arlunydd sy’n frodor o’r dre.

Dyna yw barn Wynne Melville Jones, sy’n lawnsio cyfrol newydd o’i ddarluniau mewn arddangosfa o’i waith yn Oriel Rhiannon Tregaron heddiw.

Mae’r cyn-fyfyriwr celf, a ail-gydiodd yn ei ddiddordeb mewn paentio ar ôl ymddeol chwe blynydd yn ôl, yn gweld cyfle a dyfodol newydd i’w dref enedigol gyda’r bobol leol yn cydweithio i sefydlu Tregaron fel canolfan ragoriaeth i gelfyddyd.

“Mae llymdra a thoriadau cyhoeddus yn lladd ysbryd cymuned ac yn creu ymdeimlad o anobaith ac mae prinder gwaith yn gwneud y cymunedau gweledig yn llai deniadol i bobol ifanc ac o ganlyniad mae sawl cenhedlaeth o’r ardal wedi symud i ffwrdd,” meddai.

“Mae perygl mawr y gall y gymuned weld nifer cynnyddol o bobl wedi ymddeol symud i mewn a theuluoedd yn cael eu hadleoli o’r dinasoedd am fod prisiau tai yn rhatach, gyda chanlyniadau difrifol i’r Iaith a’r diwylliant yn ardal Gymreicaf Ceredigion.

“Er mwyn ceisio atal y duedd hon mae’n rhaid gweithredu ar unwaith a meddwl o’r newydd yn ddyfeisgar er mwyn creu dyfodol gwell. Troi’r anobaith i fod yn bositif ac yn gyfle newydd ac adeiladu ar y mentrau sydd wedi llwyddo yn lleol megis – Canolfan Aur Cymru Rhiannon, Y Talbot a’i fwyty rhagorol , Canolfan y Barcud, rasus trotian ceffylau, Pentre Bach ac yn fwy diweddar Gŵyl Tregaroc, pob un yn dangos mentergarwch a dyfeisgarwch..

“Mae gan yr ardal atyniadau sy’n enwog yn rhyngwladol – Mynyddoedd Elenydd a Soar-y-Mynydd, Cors Caron, Ystrad Fflur ynghŷd â threftadaeth grefyddol gyfoethog ac ymwybyddiaeth Gymraeg a Chymreig yn ogystal a harddwch naturiol a naws y fro.”

Hanes hir o fasnachu

Mae i Dregaron hanes hir fel canolfan fasnachu ac o fentergarwch ers dyddiau’r Porthmyn a’r marchnadoedd anifeiliaid a busnesau llaeth ac mae yno heddiw nifer o fusnesau llwyddiannus.

Nawr, yn ôl Wynne Melville Jones, mae angen buddsoddiad sylweddol yn yr ardal gyda nod clir, symudiad a fyddai’n cael ei arwain gan y trigolion lleol ond gyda chefnogaeth frwd Llywodraeth Cymru, Cyngor Ceredigion , mudiadau celfyddydol, twristiaeth a datblygu economaidd gyda chymorth ymarferol a chyngor i ddarganfod ffynonellau ariannu a phartneriaethau.

“Mae lleoliad Tregaron yng nghanol Cymru ac yn nodweddiadol Gymreig yn fanteisiol a byddai creu llwyfan yno i ddoniau creadigiol Cymru yn gyfraniad i gyfoethi ein bywyd cenedlaethol , yn gyfle i fynd a chelf at y bobol ac ar yr un pryd yn adfywio cymuned Gymraeg,” meddai.

“Rwyn falch iawn o fy magwraeth yn Nhregaron mewn cymdeithas glos wledig, ac yno y dysgais ers pan yn blentyn mai’r ffordd i wireddu breuddwydion oedd drwy fwrw ati a chymryd y cyfrifoldeb a’r canlyniadau.”

Fe fydd ei gyfrol, Darluniau o Gymru … Paintings of Wales, yn cael ei lansio gan Ben Lake AS mewn arddangosfa o luniau Wynne Melville Jones yn Oriel Rhiannaon yn y dref rhwng 3 a 5 o’r gloch heddiw.