Doedd dim amdani ond creu rhywbeth ei hun pan nad oedd dim arall ar gael, yn ôl merch y diweddar Ray Gravell.

Deuddeg oed oedd Manon Gravell pan gollodd ei thad ddeng mlynedd yn ôl, ac mae’n dweud nad oedd digon o gymorth ar gael i rywun ifanc i ddygymod â cholled o’r fath.

“Yn sicr doedd dim lot o gyngor ar gael i bobol ifanc oedd wedi colli rhywun,” meddai gan esbonio iddi sefydlu Project 13 bedair blynedd yn ôl yn blatfform trafod ar y we.

Mae’n dweud fod y wefan wedi’i helpu hithau a’i chwaer, Gwenan, a’u mam Mari, ond ei gobaith yw y bydd yn helpu “pobol ifanc eraill yn y dyfodol allai fod yn yr un sefyllfa â ni.”

Ac mae wedi rhyfeddu at yr ymateb gan ddweud ei bod am i’r wefan wneud y profiad o alaru “yn rhywbeth llai unig.”

“Effaith Dad arnom ni”

Mi benderfynodd Manon Gravell alw’r wefan yn Project 13 am iddi gael y syniad pan oedd yn 13 oed, a dyma rif y crys yr oedd ei thad yn chwarae ynddo.

Erbyn hyn mae’r ferch 22 oed yn nyrs yn Ysbyty Plant Caerdydd ac newydd gyfrannu at y gyfrol Galar a fi ac yn gweld yr angen am drafod galar yn fwy agored.

Mae’n dweud fod cyfrannu at y gyfrol honno wedi bod yn “brofiad od” wrth iddi ddychwelyd at ddyddiaduron o’r cyfnod a chael ei “danfon yn ôl i’r adeg yna.”

“Mae lot wedi newid, lot bydden ni eisiau i Dad eu gweld, fel fi’n graddio a Gwenan yn mynd i’r brifysgol, sy’n siom nad yw e wedi gweld hynny.”

“Ond ni wedi datblygu drwy ddod ag effaith Dad arnom ni yn ein bywydau – fel ei ffordd e o wneud pethau a’i frwdfrydedd e,” meddai.

A hyd heddiw, mae’n dal i glywed straeon am ei gyfraniad ym myd rygbi a darlledu ac yn clywed gan y bobol yr oedd wedi cyfarfod â nhw.

“Ni’n browd iawn ohono fe, ond o’n i wastad yn browd ohono fe.”