Wrth i’r ffrae tros ddiffyg Cymraeg ar drenau Great Western o dde Cymru i Lundain boethi, mae wedi dod i’r amlwg bod argymhellion i osod Safonau’r Gymraeg ar gwmnïau trenau wedi eu cyflwyno i Weinidog y Gymraeg ym mis Hydref y llynedd.

Er i Gomisiynydd y Gymraeg gyflwyno adroddiad Safonau i Lywodraeth Cymru ar 31 Hydref, a fyddai wedi galluogi Alun Davies i gyflwyno’r cynigion i’r Cynulliad eu pasio, does dim symud wedi bod wrth geisio rhoi cwmnïau trenau dan y Safonau.

Wrth i’r Comisiynydd Iaith ateb cwestiynau gerbron Aelodau Cynulliad ddoe, daeth i’r amlwg fod y Gweinidog yn oedi wrth roi mwy o gyrff dan y Safonau tan i’r ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth newydd ynghylch y Gymraeg ddod i ben.

Ar Twitter, mae Alun Davies yn dweud bod y “papur gwyn mor glir â chrisial y dylid ymestyn cwmpas y ddeddf fel ei fod e’n bosib gosod safonau ar y sector preifat am y tro cyntaf”.

Ac mewn datganiad i golwg360, mae llefarydd Gweinidog y Gymraeg wedi datgan:

“Rydym wedi ymrwymo i barhau i weithredu Safonau ar draws y sectorau hynny a ganiateir gan y gyfraith gyfredol.

“Rydym hefyd yn awyddus i symud ymhellach ac yn gyflymach. Dyma’r rheswm dros symleiddio’r broses gyfreithiol gyfredol ac ehangu cyrhaeddiad safonau y tu hwnt i’r hyn sydd yn bosib ar hyn o bryd.

“Mae’r Gweinidog o’r farn mai dim ond trwy ddiwygio radical y bydd statws yr iaith yn cael ei normaleiddio ar draws pob rhan o Gymru ac yn annog pawb sy’n dymuno gweld newid i ymateb i’r ymgynghoriad sy’n dod i ben yr wythnos nesaf.”

Ond mae Cymdeithas yr Iaith yn cyhuddo Alun Davies o fod wedi “dewis peidio gweithredu.”

“Twyllo”

Mae Cymdeithas yr Iaith bellach wedi cyhuddo Gweinidog y Gymraeg o “dwyllo” pobol yn ei ymateb ar Twitter i’r diffyg Cymraeg ar wasanaethau trenau Great Western.

“Pe byddai’n dymuno, gallai Alun Davies wneud rhywbeth go iawn am hyn yn lle dim ond lleisio barn yn gyhoeddus am y peth,” meddai Heledd Llwyd o’r Gymdeithas.

“Mae fe’n gallu gosod Safonau ar GWR a chwmnïau trên eraill nawr er mwyn sicrhau gwasanaethau Cymraeg; fe sydd wedi dewis peidio gweithredu’r pwerau sydd gyda fe.

“Mae adroddiad y Comisiynydd am drenau sy’n caniatáu pasio Safonau drwy’r Cynulliad wedi bod yn eistedd ar ei ddesg ers mis Hydref llynedd. Ond, eto, dyw e heb weithredu – mae’n ceisio twyllo pobl.

“Felly, yn lle gweithredu, mae Alun Davies yn gwastraffu amser ar ei syniad ffôl i wanhau rheoleiddio a chael gwared â’r Comisiynydd.

“Rhaid rhoi ei gynlluniau presennol yn y bin, ac ymestyn hawliau ieithyddol i’r sector breifat – rhywbeth y gallai fe wneud nawr yn achos cwmnïau trên.”

“Mater o barch sylfaenol at y Gymraeg yw sicrhau bod arwyddion a chyhoeddiadau dwyieithog ar drenau yng Nghymru – does dim esgus i beidio.

“Mae’r ffaith fod GWR wedi dweud nad oes cynlluniau i sicrhau hyd yn oed y pethau syml hyn, a’u bod wedi colli cyfleoedd hawdd i wneud hynny, yn dangos nad ydyn nhw fel cwmni yn addas i gynnal gwasanaeth drenau yng Nghymru.”