Ni fydd cymhwyster newydd yn disodli TGAU Cymraeg Ail Iaith tan 2024, er bod arbenigwyr wedi galw am roi’r gorau i ddysgu’r pwnc erbyn 2018.

Yn 2013 fe gasglodd adroddiad Un iaith i bawb bod angen rhoi’r gorau i ddysgu Cymraeg Ail Iaith, a hynny am ei fod yn fethiant trychinebus gyda’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gadael yr ysgol heb fawr ddim Cymraeg.

Dan Gadeiryddiaeth yr Athro Sioned Davies, daeth  awduron yr adroddiad – yn benaethiaid ysgolion a chyfarwyddwyr addysg – i gasgliadau diamwys:

“Ni ellir gwadu ei bod yn unfed awr ar ddeg ar Gymraeg Ail Iaith. … mae lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn is nag mewn unrhyw bwnc arall. Petai hyn wedi cael ei ddweud am Fathemateg, neu am y Saesneg, diau y byddem wedi cael chwyldro.

“Ond mae cyrhaeddiad isel mewn Cymraeg ail iaith wedi cael ei dderbyn fel y norm. Os ydym o ddifrif ynglŷn â datblygu siaradwyr Cymraeg a gweld yr iaith yn ffynnu, rhaid newid cyfeiriad, a hynny fel mater o frys cyn ei bod yn rhy hwyr.”

“Gwneud ffars o amserlen” arbenigwyr

Er i Lywodraeth Cymru gytuno bod angen claddu Cymraeg Ail Iaith a chael pob disgybl i astudio un cymhwyster Cymraeg ar ‘gontinwwm’, mae ymgyrchwyr yn dweud bod eu hamserlen ar gyfer newid y sefyllfa “yn hollol annerbyniol… ac yn gwneud ffars o amserlen adroddiad Sioned Davies”.

Yn y ddogfen Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth Ein Cenedl 2017-21 mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd “addysgu’r cymwysterau TGAU newydd am y tro cyntaf” yn dechrau yn 2024.

Erbyn hynny, yn ôl Cymdeithas yr Iaith bydd “degau o filoedd o blant ychwanegol yn cael eu hamddifadu o ruglder yn Gymraeg” erbyn i’r dull newydd o ddysgu Cymraeg ddod i rym yn 2024.

Mewn llythyr at y Gweinidog Addysg mae’r mudiad yn dweud y “byddai’n hollol annerbyniol pe bai disgyblion yn gorfod aros tan ganol y degawd nesaf nes eu bod yn cael cyfiawnder a chydraddoldeb”.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth: “Rhaid i ni sicrhau bod y newidiadau i’r cwricwlwm yn cael eu gweithredu ar gyflymder priodol. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb i’r Gymdeithas maes o law.”