Mae llawer o fathau o gorynnod Cymru mewn perygl o ddiflannu am byth os na fydd ymdrech i’w hachub, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae’r corff wedi bod yn gweithio gyda’r Gymdeithas Arachnolegol Brydeinig – cymdeithas y pryfed cop – i gynnal arolwg o’r holl bryfed cop sydd yn y Deyrnas Unedig.

O’r 654 o wahanol rywogaethau yng ngwledydd Prydain, mae dros 500 yn byw yng Nghymru, ond mae nifer y mathau gwahanol yn gostwng.

Mae’r adolygiad yn dangos bod tair rhywogaeth eisoes wedi diflannu, deunaw mewn perygl “enfawr” ac 84 naill ai mewn perygl neu’n agos at fod mewn perygl ar draws gwledydd Prydain.

Y rhai mwya’ prin

Dywedodd Michael Howe, Ecolegydd Infertebratau Cyfoeth Naturiol Cymru, fod y pryfed cop mwyaf prin i’w gweld mewn ogofau mewn dau fan yn ne Cymru.

Mae cadarnleoedd rhai mathau eraill hefyd yng Nghymru a’u cynefinoedd mewn peryg.

“Mae corryn rafftio’r ffen sydd llawer haws i ddod o hyd iddo i’w weld yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Crymlyn ger Abertawe – dyma un o’n pryfed cop mwyaf gyda’r fenyw yn mesur 13-22mm a’r gwryw yn mesur 10-16mm,” meddai Michael Howe.

Un o bump dan fygythiad

“Mae’r adolygiad newydd a phwysig hwn yn dangos fod bron i un rhan o bump o rywogaethau pryfed cop amrywiol a gwych Prydain mewn perygl cadwraethol, gan gynnwys 102 rhywogaeth sydd mewn perygl o ddiflannu,” meddai Helen Smith o’r Gymdeithas Arachnolegol Brydeinig.

“Mae’n pwysleisio’r angen i ni ddeall y rhywogaethau hyn yn well er mwyn medru gwella’n gweithgaredd cadwraethol.”

Cafodd y gwaith ei wneud drwy wirfoddolwyr a wnaeth gofnodi bron i filiwn o wahanol gorynnod ledled y Deyrnas Unedig.

“Mae pryfed cop yn gwbl angenrheidiol ar gyfer yr amgylchedd ac mae’r adolygiad hwn yn pwysleisio’r angen i weithredu er mwyn rhwystro diflaniad rhai o’n rhywogaethau prinna’,” meddai Michael Howe,].