Mae gwleidyddion o sawl plaid wedi condemnio cwmni trên Great Western am wrthod cynnwys arwyddion Cymraeg ar wasanaeth newydd i dde Cymru.

Mae’r beirniaid yn cynnwys y Gweinidog tros y Gymraeg, Alun Davies, sydd wedi dweud mai mater bach fyddai i’r cwmni gynnwys arwyddion dwyieithog ar ei drenau newydd o Lundain.

“Dw i’n credu y dylen nhw gydnabod eu bod yn gweithredu mewn gwlad ddwyieithog ac fe ddylen nhw barchu ein dwy iaith genedlaethol,” meddai wrth Radio Wales.

‘Sarhad’ – meddai Plaid Cymru

Yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar y Gymraeg, mae’r penderfyniad yn “sarhad” ac yn tanseilio statws yr iaith.

Mae Sian Gwenllian wedi galw ar y cwmni i newid ei feddwl ar unwaith – “Mae agwedd Great Western yn amharchus i’r miloedd o gwsmwriaid yng Nghymru a Lloegr sy’n defnyddio eu gwasanaeth bob dydd,” meddai.