Mae cwmni o gymoedd y de yn arwain y ffordd ar geisio lleihau gorddibyniaeth cymdeithas ar gyffuriau antibiotig.

Mae cwmni IMSPEX Diagnostics Ltd o Abercynon wedi ennill €1.5m o gyllid Ewropeaidd i ddatblygu dyfais a fydd yn gallu penderfynu a oes gan berson haint bacteriol neu beidio.

Fe fydd hyn wedyn yn helpu meddygon i benderfynu os oes angen gwrthfiotig ar y claf, gan obeithio mynd i’r afael â phroblemau ymwrthedd i gyffuriau.

Mae’r ddyfais sy’n cael ei galw’n BreathSpec yn mynd drwy brofion ymchwil ar hyn o bryd i weld os yw’r peiriant yn hollol gywir wrth ddadansoddi anadl cleifion.

Cyllid at gynnal profion

Yn ôl Dayne Hodgson o gwmni RedKnight, sy’n cydweithio gyda IMSPEX ac sydd hefyd yn gweithio yn Abercynon, mae rhan fwyaf o’r cyllid oddi wrth y Comisiwn Ewropeaidd yn mynd at gynnal y profion hyn.

“Un o’r prif broblemau sydd gan y busnesau yma [yn y sector iechyd] ydi’r gost o ddatblygu dyfeisiau fel yma, yn enwedig efo’r gost efo’r clinical trials,” meddai wrth golwg360. “Dyna ydi’r brif gost ac sy’n dal pobol yn ôl.

“Budget y prosiect yma yw €2.37m ac mae hanner y budget, €1.2m, yn mynd at y clinical trials.

“Maen nhw wedi profi fo ar sail fach iawn, fe wnaethon nhw brofion bach yn y Liverpool School of Tropical Medicine yn samplo tua 40 o gleifion oedd â heintiau anadlol… Fe wnaeth y profion hynny dod i’r casgliad bod y peiriant yma yn gallu gweithio’n ddigon manwl i allu gwneud mwy o astudiaeth.”

Y bwriad yw profi 2,000 o samplau mewn chwe lleoliad yn y Deyrnas Unedig rhwng mis Hydref eleni a mis Mai’r flwyddyn nesaf pan fo pobol yn fwy tebygol o ddal y ffliw.

Y nod

“Y plan fydd dod â’r peiriant i’r farchnad o fewn blwyddyn o ddiwedd y prosiect i gael ei ddefnyddio dros y byd gan GP’s ac ysbytai i allu dangos os ydi’r claf efo bacterial neu non-bacterial infection,” meddai Dayne Hodgson.

“Mae hynny’n amlwg yn mynd i effeithio os bydd y claf angen gwrthfiotigion neu beidio.

“Ti’n methu symud am straeon yn y newyddion ar hyn o bryd amdan antimicrobial resistance [ymwrthedd bacteria], mae’n hot topic.

“Yn amlwg, os bydd hyn yn gweithio, bydd e yn dod â mwy o swyddi i Gymru… yn amlwg os ydyn nhw’n gallu dod â’r peiriant yma i’r farchnad, bydd yna gyfleoedd iddyn nhw ddatblygu ymhellach.

Brexit yn codi pryder?

Yn ôl Dayne Hodgson, dydy’r prosiect ddim yn poeni’n ormodol am effeithiau Brexit, gan ddweud mai sicrhau’r cyllid o Ewrop yw’r cam pwysicaf.

“Ynglŷn â’r cyllid sydd ar gael gan y Comisiwn Ewropeaidd, dw i ddim yn poeni gormod ers i’r refferendwm bod,” meddai.

“Dydi Brexit heb effeithio arnom ni gormod ar hyn o bryd, ac rydyn ni’n falch bod Llywodraeth [San Steffan] wedi dod allan ac wedi dweud bod nhw’n mynd i gefnogi unrhyw bids sydd wedi cael eu cymeradwyo cyn i ni adael.

“Dydyn ni ddim yn siŵr iawn pa fodel fyddwn ni’n dilyn ar ôl i ni adael chwaith, os byddwn ni’n datblygu’r un model â’r Swistir neu Norwy, lle maen nhw’n talu i fod yn rhan o raglenni cyllid.

“Os byddwn ni’n dilyn model fel yma, byddwn ni’n dal i allu bidio am y pres yma hyd yn oed ar ôl gadael, so ar hyn o bryd rydyn ni’n dal i fod yn optimistig.”