Mae cynhebrwng Betty Campbell yn cael ei gynnal yn y brifddinas am 10.30yb heddiw – y wraig a ddaeth yn brifathrawes groenddu gyntaf Cymru.

Bu farw Hydref 14, wedi cyfnod byr o salwch. Roedd hi’n 82 oed, ac wedi’i geni yng Nghaerdydd, i dad o Jamaica ac i fam o dras Gymreig.

Fe fu hi hefyd yn gynghorydd yn ardal Tre-biwt, ac mae’r gwasanaeth heddiw’n cael ei gynnal yn Eglwys y Forwyn Fair, cyn bod ei chorff yn cael ei roi i orwedd ym Mynwent y Gorllewin, Trelai.

Mewn teyrnged i’r athrawes a’r brifathrawes a fu’n gweithio yn ysgolion cynradd Llanrhymni a Mount Stuart, meddai Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: “Roedd hi’n wir arloeswraig ac yn ysbrydoliaeth”.