Does dim angen poeni am y nifer gynyddol o bobol Cymru sy’n troi at ddiet figan, yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Er i ffermwyr yn y diwydiant llaeth leisio pryderon yn gynharach yr wythnos hon dros y cynnydd mewn selebs yn hepgor cig a chynnyrch llaeth o’u deiet, mae Andrew RT Davies, sy’n ffermwr ei hun, yn dweud na fydd y “ffasiwn” yn para’n hir.

“Ddwy flynedd yn ôl roedd pawb ar y deiet Atkins, roedd pobol yn bwyta nifer helaeth o gig,” meddai wrth golwg360.

“Heddiw mae gennym ni stori bod pawb yn mynd yn figan, ond dw i’n meddwl bod y ffigurau’n dangos bod llai na 1% o’r boblogaeth yn figan.

“Roeddwn i ar Atkins a gallwch chi weld pa mor llwyddiannus oedd hynny! Heddiw, figaniaeth yw blas y mis, y flwyddyn nesa’ bydd e’n rhywbeth arall…”

Pobol yn pleidleisio gyda’u pocedi 

“Yr hyn dw i’n gwybod yw bod mwy a mwy o bobol yn pleidleisio gyda’u pocedi i brynu cynnyrch Cymreig a Phrydeinig o ansawdd a gobeithio y bydd hynny’n parhau,” meddai Andrew RT Davies wedyn.

“Dw i ddim yn diystyru dewisiadau pobol ar eu ffordd o fyw os mai dyna’r ffordd maen nhw’n dewis.

“Yr hyn dw i’n gwybod yw bod diet o gig a chynnyrch llaeth gyda llysiau a balans yn ffordd iach o fyw.”