Mae gyrrwr a merch ifanc o Ynys Môn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad car.

Digwyddodd y gwrthdrawiad fory ddydd Sul yn Northampton. Dywedodd yr heddlu fod y Volkswagen Polo wedi rholio oddi ar y ffordd.

Cafodd y gyrrwr gwrywaidd 22 oed o Ynys Môn ei anafu’n ddifrifol a bu’n rhaid ei hedfan i Ysbyty Coventry a Warwick. Mae mewn cyflwr argyfyngus ond sefydlog.

Cafodd merch 18 o’r ynys hefyd ei hedfan i’r ysbyty ac mae hi mewn cyflwr difrifol.

Aethpwyd ag ail deithiwr i Ysbyty Northampton ond dywedodd yr heddlu nad oedd wedi ei anafu’n ddifrifol.

Dyw’r heddlu heb gyhoeddi enwau’r gyrrwr a’r teithwyr eto. Maen nhw’n galw am lygaid-dystion i’r hyn ddigwyddodd.