Fe fydd coedwig hanesyddol yn Abertawe yn derbyn £2.3 miliwn er mwyn ei adfer.

Roedd Coedwig Cwm Penllergare yn ystâd bonedd enwog ac yn gartref i uchelwr adnabyddus yn y 19eg ganrif.

Dros y degawd diweddaf mae Ymddiriedolaeth Penllergare, ger pentref Penlle’r-gaer, wedi bod yn brwydro i adfer y llecyn sydd wedi ei esgeuluso a’i fandaleiddio dros y blynyddoedd.

Mae’r ymddiriedolaeth wedi dweud eu bod nhw’n hapus iawn heddiw ar ôl derbyn yr arian gan Gronfa Nawdd Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

“Ers 10 mlynedd rydyn ni wedi bod yn gweithio i adfer y cwm,” meddai Hal Moggridge, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Penllergare.

“Y nod yw bod y dirwedd hynod brydferth yma sydd ar stepen drws Abertawe ar gael i bawb ei fwynhau.

“Mae’n nawdd yn fuddsoddiad anferth yn Abertawe a’i bobol ac yn bleidlais fawr o hyder yn yr Ymddiriedolaeth.”

Cafodd Ystâd Penllergare ei greu gan John Dillwyn Llewelyn, oedd yn enwog am ei gyfraniad at gynllunio tirwedd a’i waith ffotograffig “arloesol”.

Dechreuodd dirywiad y goedwig wrth i draffordd yr M4 gael ei adeiladu dros ran ohono, a chafodd plasty John Dillwyn Llewelyn ei ddinistrio er mwyn adeiladu swyddfeydd y cyngor.

Cafodd Ymddiriedolaeth Penllergare ei ffurfio yn y flwyddyn 2000 er mwyn ceisio achub y goedwig rhag dirywio ymhellach.

Y gobaith yw y bydd modd trawsnewid y goedwig yn atyniad i dwristiaid a denu 130,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Fe fydd yr arian yn mynd at ail-greu pont garreg dros afon, adfer llyn ac ail-blannu coed a llwyni addurnol.