John Cooper
Mae seicolegydd fforensig wedi dadlau y dylid ymchwilio i gysylltiadau rhwng y llofrudd John Cooper a marwolaethau brawd a chwaer oedrannus.

Yn gynharach eleni cafodd John Cooper, 66 oed, o Dreletert, ger Hwlffordd, ei garcharu am oes am lofruddiaethau treisgar Richard a Helen Thomas a Peter a Gwenda Dixon yn y 1980au.

Yn ddiweddarach dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n ystyried ailagor ymchwiliad i farwolaeth dynes oedd yn byw ger Cooper ar ôl dod o hyd i’w chorff mewn bath.

Dywedodd y seicolegydd fforensig, Clive Simms, y dylen nhw hefyd ymchwilio i farwolaethau Griff a Patti Thomas mewn tŷ fferm yn Llangolman, Sir Benfro, yn 1976.

Roedd Heddlu Dyfed-Powys wedi ymchwilio i ddwy lofruddiaeth i ddechrau, cyn dod o’r casgliad fod Griff Thomas wedi ffraeo â’i chwaer, ei bwrw ar ei phen a rhoi ei hun ar dân.

Wrth siarad â rhaglen S4C, Taro Naw, dywedodd Clive Simms ei fod yn credu fod y ddau wedi marw ar ôl “byrgleriaeth aeth o’i le”.

“Roedd focs arian gwag, roedd rhywun wedi torri i mewn i’r ddesg, roedd drws y cefn heb ei glot, a sawl peth sydd ddim yn gwneud synnwyr,” meddai.

“Rydw i’n credu fod ddigon o dystiolaeth i ail-edrych ar yr achos yma unwaith eto.”

Bydd Taro Naw yn cael ei ddarlledu am 9.30pm heno