Llys y Goron Abertawe
Bu’n rhaid taflu perthnasau cynddeiriog bachgen a merch ifanc gafodd eu lladd mewn damwain car allan o lys heddiw ar ôl i’r gyrrwr osgoi cael ei anfon i’r carchar.

Bu’n rhaid i’r heddlu ymyrryd i fwrw allan un aelod o’r teulu wrth iddyn nhw weiddi ar y barnwr yn Llys y Goron Abertawe.

Dywedodd un bod penderfyniad y barnwr yn “f****** bulls**t”.

Cafodd Jai Burkes, 18, ac Anwen Busby, 16, eu lladd yn ystod y ddamwain wrth deithio mewn car gyda’r nos ger Aberystwyth ym mis Awst, 2010.

Collodd Ashley Williams, 22, o Aberystwyth, reolaeth ar y cae ar dro siarp yn y ffordd ac fe syrthiodd 20 troedfedd i lawr arglawdd.

Glaniodd ei Ford Focus Zetec 1.6cc coch, yr oedd wedi ei brynu bythefnos ynghynt, ben i drosodd mewn pedair troedfedd o ddŵr.

Llwyddodd i ddianc o’r car ond cafodd pedwar ffrind, gan gynnwys tair merch 16 oed a’i gyfaill pennaf Jai Burkes, eu caethiwo y tu mewn.

Cafodd Charlotte Tourle ac Amy Valentine eu hanafu ond fe fuon nhw fyw.

Sgrechian

Digwyddodd y gwrthdrawiad 10 milltir y tu allan i Aberystwyth yn Llyn Llywernog ar yr A44 ger Ponterwyd.

Heddiw clywodd y Barnwr Christopher Vosper y datganiad yr oedd Ashley Williams wedi ei roi i’r heddlu ar ôl iddyn nhw gyrraedd lle y digwyddodd y ddamwain yn yr haf.

Roedd Ashley Williams wedi ceisio achub ei ffrindiau ac yna wedi ceisio tynnu sylw ceir oedd yn mynd heibio, heb unrhyw lwc, meddai.

Yna rhedodd i gartref cyfagos a rhoi gwybod beth oedd wedi digwydd cyn dychwelyd i’r car lle’r oedd y merched caeth yn sgrechian.

Llwyddodd diffoddwyr tân i dorri’r bobol ifanc yn rhydd dwy awr ar ôl cyrraedd safle’r ddamwain.

Cafodd Ashley Williams ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.

‘Oedi’n hir’

Yn Llys y Goron Abertawe fis diwethaf cyfaddefodd ei fod wedi achosi marwolaeth drwy yrru’n esgeulus, cyhuddiad sy’n llai difrifol.

Wrth iddo gyrraedd y llys heddiw roedd teuluoedd y rheini fu farw yn disgwyl y byddai yn cael ei garcharu.

“Rydw i wedi oedi’n hir cyn dod i’r penderfyniad yma,” meddai’r Barnwr Vosper.

Dedfrydodd Ashley Williams i 250 awr o waith di-dâl dros y flwyddyn nesaf, cyn dweud ei fod yn cydnabod y byddai rhai yn ystyried nad oedd wedi ei gosbi’n ddigonol.

Cafodd hefyd ei wahardd rhag gyrru am dair blynedd.

Wrth i Ashley Williams adael y llys dywedodd ei dad, Robert Williams, mai “ddamwain trasig” oedd beth ddigwyddodd.

“Mae fy mab wedi bod drwy uffern dros y flwyddyn ddiwethaf,” meddai.