Bethan Jenkins
Mae Aelod Cynulliad wedi teithio i Lundain y bore ma er mwyn cyflwyno deiseb yn galw am achub gorsaf Gwylwyr y Glannau Abertawe.

Bydd dadl ynglŷn â’r cynlluniau dadleuol i gau wyth gorsaf ledled Prydain erbyn 2015 fel rhan o gynlluniau ad-drefnu.

Dywedodd Bethan Jenkins wrth Golwg360 fod “dros 100,000 o enwau ar y ddeiseb”.

“Maen nhw wedi bod mas mewn llefydd fel Port Talbot, Abertawe pob dydd Sadwrn yn ymgyrchu a thynnu sylw,” meddai.

“Rwy’n credu bod pobl yn  ddig am nad oedd Abertawe yn rhan o’r ymgynghoriad gwreiddiol ac wedi ei ychwanegu i’r rhestr cau yn ddiweddarach.

“Mae pobol yn gofyn pam nad oedden ni wedi gwneud rhagor o ymgyrch nes nawr? Ond bryd hynny roedden ni’n credu y byddai canolfan Abertawe ar agor yn ystod y dydd.

“Mae cau’r orsaf yn Abertawe nid yn unig yn effeithio ar Gymru ond gweddill Môr Hafren a’r tir o’i amgylch hefyd.”

Pryder

“Fy ngobaith i yw dangos i’r Dirprwy Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Mike Penning, fod pobl leol yn pryderu am hyn ac nad ydyn ni’n mynd i ganiatáu iddo ddigwydd heb frwydr,” meddai Bethan Jenkins.

Fe fuodd yr Aelod Cynulliad hefyd yn rhan o brotest ddydd Mawrth diweddaf y tu allan i’r swyddfa yn y Mwmbwls wrth i Mike Penning ymweld â staff er mwyn trafod y cynlluniau dadleuol.