Andy Whitfield
Mae Andy Whitfield, actor o Gymru oedd fwyaf enwog am ei ran yn y gyfres Spartacus: Blood and Sand, wedi marw yn 39 oed.

Fe fu farw Andy Whitfield yn Sydney, Awstralia, ddoe, 18 mis ar ôl cael gwybod ei fod yn dioddef o ganser y gwaed.

“Ar fore hyfryd o wanwyn yn Sydney, ac yn nwylo ei wraig, fe gollodd Andy Whitfield ei frwydr 18 mis â chanser,” meddai ei wraig Vashti mewn datganiad.

“Fe fu farw yn heddychlon wedi ei amgylchynu gan gariad. Diolch i’w holl gefnogwyr sydd wedi bod o gymorth wrth ei gynnal hyd yma.

“Fe fydd yn cael ei gofio am fod yn ddyn, tad a gŵr ysbrydoledig, dewr ac addfwyn.”

Cafodd Andy Whitfield ei eni yn Amlwch, Ynys Môn a symudodd i Awstralia yn 1999.

Daeth yn enwog drwy chwarae rhan Spartacus mewn 13 episod o’r gyfres Blood and Sand, cyn cael gwybod bod ganddo ganser.

Wrth ddisgwyl i weld a fyddai yn gwella cynhyrchwyd cyfres arall, Spartacus: Gods of the Arena, oedd yn cynnwys llais Andy Whitfield yn unig.

Ond ym mis Ionawr fe waethygodd cyflwr  Andy Whitfield ac fe gyhoeddodd y cynhyrchwyr Starz y byddai actor arall, Liam McIntyre, yn cymryd ei le.