Rhybudd ar hyd y glannau
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru’n rhybuddio am beryg o lifogydd ar hyd arfordir Cymru.

Mae swyddogion yn dweud fod bygythiad i lannau môr Cymru gyfan adeg llanw uchel bore fory a bore dydd Mawrth.

Fe ddylai pobol wrando ar fwletinau tywydd lleol neu ffonio llinell frys yr Asiantaeth, medden nhw.

Fe fydd staff yr Asiantaeth yn cadw llygad ar amddiffynfeydd ac yn codi rhwystrau tros dro os bydd angen.

Mae yna rybudd hefyd i bobol beidio â mynd ar y glannau neu ar y promenâd mewn trefi glan môr pan fydd y llanw’n uchel.

Rhif llinell frys yr Asiantaeth ydy 0845 988 1188.