Elin Jones
Rhybuddiodd yr Aelod Cynulliad Elin Jones heddiw bod rhaid i’r economi fod yn brif flaenoriaeth i Gymru a dyfodol y genedl.
Roedd Aelod Cynulliad Ceredigion, sy’n ymgeisydd i olynu Ieuan Wyn Jones yn arweinydd y blaid, yn siarad yng nghynhadledd flynyddol Plaid Cymru yn Llandudno heddiw.
Dywedodd fod angen pwyso am fesurau cyllidol ac economaidd er mwyn helpu busnesau yng Nghymru sy’n brwydro i ymdopi.
Rhybuddiodd nad oedd Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i fynd i’r afael â’r mater, a bod angen i Blaid Cymru i sefydlu cronfa buddsoddi cyfalaf ar frys er mwyn rhoi hwb i economi Cymru.
“Does dim amheuaeth mai’r brif flaenoriaeth i Gymru heddiw yw’r economi. Mae newid enfawr yn digwedd yn economi’r byd,” meddai Elin Jones.
“Mae cewri hen gyfundrefn economaidd y gorllewin – yr Unol Daleithiau, y Deyrnas Gyfunol, ardal yr Ewro – i gyd yn sefyll ar y dibyn.
“Ni welir y rheiny a ystyriwyd yn hen gewri economaidd cadarn y byd yn yr un goleuni bellach.
“Yng Nghymru mae ein busnesau a’n cymunedau’n sefyll yn ddi-rym yn y byd ansicr hwn. Mae’r Llywodraeth Tori Rhyddfrydol wedi gwrthod ysgogiad ariannol er mwyn hwyluso twf.
“Yn yr un modd mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod galwad Plaid Cymru i stimiwleiddio’r economi a gwneud iawn am y ffaith bod cronfeydd cyfalaf cyhoeddus wedi’u colli.
“Rydym am weld busnesau Cymru’n ffynnu a’n heconomi yn tyfu. Mae angen i Blaid Cymru wrando ar farn busnesau ac mae angen i ni ddadlau eu hachos ond rydym hefyd angen rhagor o fecanweithiau cyllidol ac economaidd yng Nghymru.
“Heb uchelgais a phendantrwydd Plaid Cymru, does dim yn cael ei gyflawni i’r wlad hon.”