Dafydd Wigley
Mae’r Arglwydd Dafydd Wigley wedi galw am ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi yn ei araith yng nghynhadledd Plaid Cymru, heddiw.

Dywedodd cyn arweinydd y blaid, a gymerodd ei sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi yn gynharach eleni, fod angen llawer o waith i newid y sefydliad.

“Yn y chwe mis yr ydw i wedi bod yn aelod o;’r ail siambr, mae wedi dod yn gwbl amlwg fod angen diwygio’r lle, o’r top i’r gwaelod,” meddai.

“Mae yna rai elfennau o’r gwaith sydd wir yn draed moch. Mae’r cyfleusterau a’r arferion gwaith yn ein Cynulliad Cenedlaethol ymhell ar y blaen i ail siambr San Steffan.”

Dywedodd ei fod yn cefnogi systemau un siambr fel sydd yn Seland Newydd.

“Os ydyn nhw’n gallu ymdopi ag un siambr yn unig, pam na allai’r Deyrnas Unedig?” gofynnodd.

“Ond yn anffodus mae’n amlwg fod y mwyafrif llethol o arglwyddi eisiau cadw pethau fel y maen nhw – dyw tyrcwn ddim yn pleidleisio dros y Nadolig.

“Mae Plaid Cymru eisiau gweld datganoli pob grym a swyddogaeth i Gymru. Ond fe fydd unrhyw benderfyniad i ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi yn effeithio ar Gymru.

“Os nad yw Plaid Cymru yn amddiffyn buddiannau Cymru ni fydd unrhyw un arall yn gwneud hynny.”