Brendan Rodgers, hyfforddwr Abertawe
Roedd Abertawe yn anlwcus i beidio â sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Arsenal heddiw, yn ôl yr hyfforddwr cynorthwyol Colin Pascoe.

Doedd Brendan Rodgers ddim yn bresennol yn ystod y gêm ar ôl i’w dad farw neithiwr, ond roedd yn “falch iawn o’r ffordd y chwaraeodd yr hogiau,” meddai Colin Pascoe.

Roedd y clwb o Gymru wedi cystadlu ag Arsenal oddi cartref am gyfnodau hir, ond newidiodd y gêm drwy gamgymeriad gan y golwr Michel Vorm toc cyn hanner amser.

Taflodd y bêl at Angel Rangel, ond cafodd ei rhyngipio gan Andrey Arshavin a sgoriodd yn hawdd.

“Rydyn ni’n diawlio na lwyddon ni i gael unrhyw beth o’r gêm, ond mae’n rhaid i ni ddechrau sgorio goliau os ydyn ni am ennill gemau,” meddai Colin Pascoe.

“Ar hyn o bryd dydyn ni ddim wedi bod yn gwneud hynny, ond rydyn ni wedi creu sawl cyfle felly dydw i ddim yn pryderu’n ormodol.

“Pan ydych chi’n dod i le fel yr Emirates mae’n rhaid i chi darfu ar chwarae’r tîm arall ac roedden ni wedi llwyddo i wneud hynny.”

Dywedodd ei fod wedi bod mewn cyswllt â Brendan Rodgers ers i’r hyfforddwr adael i fod â’i deulu.

“Rydyn ni wedi bod mewn cyswllt cyson. Dim ond neithiwr yr aeth o ac roedd yno i weld ei dad yn marw,” meddai Colin Pascoe.

“Rydw i wedi siarad ag ef ac roedd yn falch o’r modd yr oedd yr hogiau wedi chwarae.

“Roedd popeth wedi ei baratoi o flaen llaw ac roedden ni’n anffodus i beidio â chael gêm gyfartal.”