Elfyn Llwyd
Pasiwyd cynnig yng Nghynhadledd Flynyddol Plaid Cymru heddiw sy’n galw ar y gyfraith ar stelcian i gael ei adolygu a’i gryfhau.

Pledleisiodd cynrychiolwyr yn eu cynhadledd yn Llandudno o blaid gwneud rhaglenni triniaeth ar gael i’r sawl sy’n gwneud hyn a bod hyfforddiant yn cael ei rhoi i’r heddlu a swyddogion prawf ar sut i ddelio gyda stelcwyr a dioddefwyr.

Yn 2010, cafodd ryw 53,000 digwyddiad o stelcian ac aflonyddu eu cofnodi gan yr heddlu yn y DG, ond dim ond 2.2% o’r achosion hyn a arweiniodd at ddedfryd.

“Mae stelcian yn drosedd sy’n rhwygo perthnasau i ddarnau ac yn chwalu bywydau,” meddai’r Aelod Seneddol, Elfyn Llwyd.

“Mae’n hen bryd adolygu y Ddeddf Gwarchod rhag Aflonyddu 1997. Mae’n rhaid i ni daclo y cyfradd dedfryd sy’n boenus o isel.

“Mae angen i ni hefyd edrych ar gynllun triniaeth ar gyfer troseddwyr o stelcian i gael gwared o’r ymddygiad obsesiynol, yn yr un modd a mae troseddywr rhyw yn derbyn triniaeth.

“Yn amlwg, rwy’nfalch iawn bod Plaid Cymru wedi pasio y cynnig hwn ac felly wedi adnabod yn ffurfiol yr angen i weithredu y newidiadau yma fel polisi swyddogol y Blaid.

“Efallai nad yw stelcian yn cael ei adnabod bob tro fel trosedd dinistrol- ac weithiau marwol- fel y mae.

“Rwy’n gobeithio y bydd pleidiau eraill yn dilyn ein esiampl ac yn cydnabod y polisiau yma yn eu cynhadleddau.”