Y Dyn Monopoly
Mae cwmni Monopoly wedi penderfynu cynhyrchu fersiwn newydd o’r gêm fwrdd yn seiliedig ar Ynys Môn.

Dywedodd crewyr y bwrdd mai penderfyniad William a Kate i fyw yn Ynys Môn ar ôl priodi oedd wedi sbarduno’r penderfyniad.

Bydd y pâr priod brenhinol yn chwarae rhan “blaenllaw” yn y gêm meddai’r crewyr.

Maen nhw’n ffyddiog y bydd y diddordeb ym mhriodas y pâr priod yn sicrhau fod gan y gêm bwrdd farchnad fyd-eang.

“Mae yna ddiddordeb wedi bod o bob cwr o’r byd ac mae llawer o bobol wedi clywed am yr ynys o ganlyniad i Ddug a Duges Cernyw,” meddai Graham Barnes o gwmni Hasbro wrth bapur newydd y Daily Post.

“Fe fydd yn helpu i hybu enw Ynys Môn ymhellach.”

Fe fydd y bwrdd ar gael yn y siopau ac ar-lein o 29 Hydref.

“Hoffwn ni ddiolch i bobol Ynys Môn am eu mewnbwn,” meddai Mark Hauser, cyfarwyddwr trwyddedu Winning Moves UK, sy’n creu’r gêm ar ran Hasbro.

“Heb eu cymorth nhw fyddwn ni ddim wedi gallu cynhyrchu’r gêm.”