Afon Teifi
Mae dyn 26 mlwydd oed o ardal Aberteifi wedi’i achub a’i arestio gan y gwasanaethau brys ar ôl neidio mewn i afon.

Mae’n debyg ei fod yn ceisio osgoi cael ei arestio gan swyddogion Asiantaeth yr Amgylchedd ar y pryd, medden nhw.

Roedd swyddogion Trosedd Amgylcheddol yn y broses o arestio’r dyn mewn cysylltiad ag achos honedig o botsian eog ar Afon Teifi pan neidiodd i mewn i’r dŵr.

Cysylltodd y swyddogion â’r heddlu, gwylwyr y glannau, y gwasanaeth tân a’r ambiwlans. Cafodd y dyn ei achub o’r dyfroedd ar ôl mynd i drafferthion.

Cafodd ei helpu i’r lan gan y swyddogion Trosedd Amgylcheddol.

Mae’r dyn wedi’i ryddhau ar fechnïaeth a bydd rhaid iddo ymddangos o flaen gorsaf Heddlu Aberteifi yn y dyfodol.