Ieuan Wyn Jones
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi cyhoeddi neges er cof am y rheini fu farw yn ystod 9/11, y diwrnod cyn 10fed pen-blwydd yr ymosodiad.

Dywedodd Ieuan Wyn Jones ei fod yn cydymdeimlo â’r rheini gollodd aelodau o’u teuluoedd yn yr ymosodiad ar dyrrau Canolfan Masnach y Byd, Efrog Newydd, yn 2001.

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai coffau 10 mlynedd ers yr ymosodiadau yn “ysgogiad newydd i sicrhau heddwch ledled y byd”.

Yn dilyn ei araith olaf yn arweinydd y blaid dywedodd Ieuan Wyn Jones ei fod “yn cydymdeimlo â’r rheini y mae digwyddiadau 9/11 wedi cyffwrdd â’u bywydau nhw”.

“Mae digwyddiadau’r diwrnod hwnnw wedi gadael ei ôl arnom ni i gyd, ac mae’r byd wedi dysgu gwersi am yr angen i fyw â’n gilydd yn gymdogion goddefgar”.

“Rydw i’n gobeithio y bydd cofio erchyllterau 2001 yn ysgogiad newydd i bob gwlad gydweithio â’i gilydd er mwyn sicrhau heddwch”.