Stadiwm Wembley
Mae ditectifs sy’n ymchwilio i farwolaeth cefnogwr pêl-droed o Gymru wedi dweud nad oes tystiolaeth pendant yn awgrymu mai cefnogwyr Cymru oedd wedi ymosod arno.

Cafodd Michael Dyer, 44, ei ladd brynhawn ddydd Mawrth y tu allan i Stadiwm Wembley, cyn gêm bêl-droed rhwng Cymru a Lloegr.

Dioddefodd anafiadau i’w ben a hefyd trawiad ar y galon.

Arestiodd yr heddlu chwe dyn a’r gred oedd eu bod nhw i gyd yn cefnogi Cymru.

Ond mae Heddlu’r Met bellach wedi cyhoeddi fod “yr heddlu yn cadw meddwl agored ynglŷn â’r cymhelliant y tu ôl i’r ymosodiad yma”.

“Does yna ddim byd sy’n awgrymu mai cefnogwyr Cymru yn unig fu’n rhan o beth ddigwyddodd ac mae’r heddlu yn awyddus i gael gafael ar unrhyw un oedd wedi mynd i’r gêm allai fod o gymorth,” medden nhw.

Galw am gymorth

Cafodd chwech o ddynion – rhwng eu 20au hwyr a’u 40au cynnar – eu rhyddhau heb unrhyw weithredu pellach gan yr heddlu.

Roedd pedwar o ogledd Cymru a dau yn wreiddiol o dde ddwyrain y wlad ond bellach yn byw yn Lloegr.

Roedd Michael Dyer, o Gaerdydd, yn gefnogwr brwd i dîm pêl-droed y ddinas.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd, Sheila Stewart, ei bod yn “cydymdeimlo â theulu Mr Dye ar adeg ofnadwy o anodd”.

“Maen nhw wedi colli rhywun yr oedden nhw’n ei garu yn ystod gêm bêl droed heddychlon ymysg cefnogwyr oedd ar y cyfan wedi ymddwyn yn dda.

“Mae eiliad o drais creulon wedi cael canlyniadau trychinebus gan adael teulu heb fab, gŵr a thad.

“Mae’n hollbwysig ein bod ni’n cael cymorth y cyhoedd er mwyn dod o hyd i’r rheini fu’n gyfrifol.”

Cafodd Michael Dye ei adnabod yn ffurfiol gan berthnasau ddoe. Daethpwyd o hyd iddo y tu allan i lidiart Stadiwm Wembley am 7.20pm ddydd Mawrth.

Cwyn am y wasg

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi cwyno i Gomisiwn Cwynion y Wasg ar ôl i adroddiadau “ansensitif” am Michael Dye ymddangos mewn papurau newydd cenedlaethol.

Roedden nhw’n anhapus ag erthyglau ym mhapur newydd y Daily Mail, y Sun a’r Daily Mirror.

Roedd papur newydd y Daily Mail wedi honni fod Michael Dye wedi ei wahardd rhag mynychu gemau yn 1986 ar ôl “rhedeg ar y cae a dyrnu” yn Peterborough.

Dywedodd y papur newydd ei fod wedi ei wahardd am naw mis ac wedi derbyn dirwy o £425, a’i ddyfynnu yn dweud: “Dyddiau hapus – fyddwn i ddim yn newid unrhyw beth”.

Ym mis Gorffennaf y llynedd cafodd ei arestio am atal heddwas mewn gorsaf drenau yn Swindon wrth deithio i gêm bêl-droed, meddai’r papur.

Roedd adroddiadau hefyd yn y papurau newydd yn awgrymu ei fod wedi ffraeo â chefnogwyr Clwb Pêl-droed Abertawe.

“Roedd Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn siomedig wrth ddarllen erthyglau mewn tri phapur newydd yr wythnos yma oedd yn gwneud cysylltiadau di-sail â digwyddiadau trasig Stadiwm Wembley ar 6 Medi, 2011,” meddai’r clwb.

Ychwanegodd y clwb pêl-droed fod y papurau newydd yn cyfeirio at yr anghydfod rhwng Caerdydd ac Abertawe a fod hynny yn “amharchus iawn i’r clybiau a’u cefnogwyr”.