Mae Comisiwn Cwynion yr Heddlu yn ymchwilio i’r modd y bu i Heddlu Gwent ddelio gyda nifer o ddigwyddiadau cyn marwolaeth Gary Suller, a gafodd ei ganfod yn farw yn ei gartref yn Harold Street, Cwmbrân ddydd Mawrth.

 Yn dilyn ei farwolaeth, mi lansiodd Heddlu Gwent ymchwiliad i lofruddiaeth, a phan ddaeth i’r amlwg bod Gary Suller wedi cysylltu â’r heddlu cyn hynny, cafodd yr achos ei anfon ar gyfer sylw’r Comisiwn Cwynion.

 Mae dau o bobl wedi eu harestio wrth i Heddlu Gwent barhau i ymchwilio.