Maniffesto Llafur
Mae Plaid Cymru wedi ei chyhuddo o wyngalchu problemau Cyngor Caerffilin gan un o ymgeiswyr Llafur Cymru ar gyfer y cyngor sir.

Yn ei chynhadledd yn Llandudno mae’r Cynghorydd Allan Pritchard, Arweinydd Cyngor Caerffili,  wedi brolio llwyddo i arbed £1miliwn trwy ad-drefnu swyddi rheolaeth a chynnal gwasanaethau yn fwy effeithlon.

Ond nid felly y mae hi, yn ôl Chris Forehead sy’n ymgeisydd Llafur Cymru yn ward St James yng Nghaerffili.

“Yn hytrach na threulio’i amser wrth lan-y-môr yn Llandudno yn brolio ynghylch Cyngor Caerffili, mi fyddai’n well i Arweinydd y Cyngor dreulio’i amser yn nes at adref yn delio gyda’r problemau sy’n wynebu pobol Caeffili.

“Mae’r rhain yn cynnwys pobol sydd wedi colli eu swyddi yng Nghyngor Caerffili a threthdalwyr cyngor sydd wedi diodde’ oherwydd buddsoddiad Plaid Cymru yn y banciau yng Ngwlad yr Iâ.

“Yn amlwg mae Plaid Cymru yn dewis a dethol yr hyn maen nhw am ei ddweud am eu cyfnod yn rheoli ac fy nghyngor i bobol mewn tai gwydr yw byddwch yn ofalus wrth daflu cerrig.

“Mi fyddwn yn dadlau o blaid Llafur Cymru ym mhob sedd yng Nghaerffili wrth i ni baratoi ar gyfer etholiadau’r cyngor yn 2012 ac rwy’n gwybod y bydd pobl Caerffili am glywed am ein cynlluniau i greu swyddi, strydoedd glanach a gwell dyfodol, yn hytrach na rhethreg Plaid Cymru o lan-y-môr.”