Kay Holder yn y Cynulliad
Mae dynes 52 oed a gafodd ei choroni’n Ddysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddechrau Awst, wedi ei phenodi’n Swyddog Diogelwch yn adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd.

Bydd Kay Holder o Benarth yn cael ei chyflogi i gadw golwg ar ymwelwyr sy’n dod i weld cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar benwythnosau.

 Mi gymrodd hi dair blynedd i feistroli’r Gymraeg, a chan ei bod eisoes yn siarad sawl iaith mi fydd modd iddi gyfarch ymwelwyr o Ffrainc, Sbaen, yr Almaen, Rwsia a Lloegr.

“Roedd yn gymaint o anrhydedd ennill Dysgwr y Flwyddyn eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at gael defnyddio’r Gymraeg i groesawu ac i gynorthwyo ymwelwyr â’r Senedd,” meddai Kay Holder.