Cae clwb rygbi Nant Conwy dan ddŵr yn gynharach yr wythnos hon
 Mi fydd gŵyl gerddorol ar gyrion Llanrwst yn mynd rhagddi wedi’r cwbwl heno, wedi ofnau y byddai’n rhaid ei chanslo oherwydd glaw trwm a llifogydd ddechrau’r wythnos.

Eleni mae Gŵyl Gwydir wedi ei symud o ganol Llanrwst i gael rygbi rhyw ddwy filltir tu allan i’r dref.

Ddydd Mawrth bu llifogydd yn yr ardal wrth i’r Afon Conwy orlifo.

Ond mae’r trefnwyr wedi cadarnhau wrth Golwg360 fod y sefyllfa wedi sadio a gig heno yn cychwyn am wyth yn ôl y trefniant gwreiddiol.

Mae holl fanylion y penwythnos i’w canfod ar y wefan gwylgwydir.com