Wythnos i heno fe fydd Stifyn Parri yn cynnal parti mawr yn ei bentref genedigol, Rhosllanerchrugog ger Wrecsam.

Ond mae’r actor a’r cynhyrchydd sy’n adnabyddus am gychwyn y nosweithiau SWS – Social, Welsh and Sexy – lawr yn Llundain, yn gwrthod datgelu pam ei fod wedi trefnu’r parti.

Bydd camerâu teledu yn bresennol, sy’n awgrymu bod gan Stifyn Parri raglen ar y gweill ar gyfer y sgrîn fach.

Y llynedd roedd perchennog cwmni Mr Producer, wnaeth drefnu cyngerdd agoriadol Cwpan Ryder y llynedd, wedi dychwelyd i’w fro enedigol i sefydlu côr ar gyfer y gyfres Codi Canu ar S4C.

Mae llu o bosteri’n hysbysebu’r parti wedi eu gosod yn ffenestri siopau lleol, a chan nad yw Stifyn Parri yn 50 oed tan y flwyddyn nesaf, nid yw ei fam yn medru dyfalu beth yw byrdwn y parti.

“Dydi o ddim wedi d’eud dim wrthai! Y cwbl mae o ‘di d’eud yw bod yn rhaid ifi aros fel pawb arall i ffeindio allan,” meddai Marilyn mam Stifyn Parri.

“Fel arfer mae Stifyn yn ffonio fi bob dydd ond mae’n ddistaw iawn ers sbel. Dw i’n siŵr ei fod o ofn bydd yn datgelu rhywbeth ifi! Dydi o ddim yn dda iawn am gadw cyfrinachau fel rheol.”

Mae croeso i holl drigolion Rhosllanerchrugog a’r cyffiniau fynd i’r parti yn Theatr y Stiwt am saith o’r gloch y nos ddydd Gwener nesaf, am barti lle bydd bwyd a diod ar gael am ddim.