Barry Morgan
 
Ar drothwy’r cofio am ymosodiadau 9/11, mae prif gyrff Mwslemaidd a Christnogol Cymru wedi dod ynghyd i bwysleisio bod angen gweithio at gymuned fwy cytûn.

Mae Archesgob Cymru Barry Morgan a Saleem Kidwai Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslemaidd Cymru, wedi rhyddhau datganiad ar y cyd i gondemnio’r defnydd o grefydd fel rheswm dros achosi trais a marwolaeth.

 Y datganiad:

 “Cafodd y byd ei newid gan ôl-effeithiau’r ymosodiadau ar Ganolfan Masnach y Byd yn Efrog Newydd ac ar y Pentagon, ddeng mlynedd yn ôl i’r wythnos yma. Yma yng Nghymru, daeth penderfyniad yn amlwg yn fuan i herio’r hinsawdd o gynnydd mewn ofn, amheuaeth a diffyg ymddiriedaeth a achoswyd gan yr hyn a alwyd yn derfysgaeth grefyddol a’r ymateb i hynny. Er enghraifft, sefydlodd yr Eglwys yng Nghymru a Chyngor Mwslimaidd Cymru brosiect dan yr enw ‘Canfod Llais Cyffredin’ i ddod â Christnogion a Mwslimiaid ynghyd i wynebu a mynd i’r afael â rhai o’r materion anoddaf a godwyd gan y sefyllfa ryngwladol – yn cynnwys rhagfarn, stereoteipio, addysg, rôl menywod, a therfysgaeth.

“Mae cydweithio wedi chwalu rhwystrau, adeiladu perthynas gadarnhaol, a thanlinellu ymrwymiad angerddol i greu cymdeithas fwy cytûn. Y penwythnos yma, cofiwn a gweddïwn dros y rhai a ddioddefodd o derfysgaeth, condemnio defnyddio crefydd i gyfiawnhau trais ac annog pobl o bob ffydd a diwylliant i barhau i gydweithio fel y medrwn fyw yn ôl bwriad Duw – ochr yn ochr gan ddeall a pharchu ein gilydd.”