Pauline Jarman
Bydd rhai o gynghorwyr amlyca’r Blaid yn brolio’u gwaith ar gynghorau sir yn y gynhadledd yn Llandudno heddiw.

Mi fydd y cyn-Aelod Cynulliad a’r Cynghorydd Pauline Jarman yn rhoi’r gyllell i fewn i Lafur am fethu rheoli’r gyllideb ar Gyngor Rhondda Cynon Tâf.

Cafodd y criw Llafur yno eu beirniadu’n hallt gan yr undebau am geisio diswyddo staff a’u cyflogi ar delerau salach.

Mi gollodd rhai o’r gweithwyr hyd at 40% o’u cyflog dan y drefn newydd, yn ôl Pauline Jarman.

Bydd Plaid Cymru yn cymharu hanes Cyngor Rhondda Cynon Tâf yn anffafriol gyda phrofiad Cyngor Caerffili, ble mae £1miliwn wedi ei arbed trwy ailstrwythuro uwch-reolwyr.

Dan arweiniad y Blaid mae Cyngor Caerffili wedi rhewi lwfansau cynghorwyr ers 2008, a gwrthod cynyddu treth y cyngor.

Yn ôl Plaid Cymru, yn yr un cyfnod mi roddodd Cyngor Rhondda Cynon Tâf godiad cyflog o £21,000 i Gyfarwyddwr Addysg y sir.

“Mae’r weinyddiaeth dan arweiniad Llafur wedi trin eu gweithwyr yn sarhaus trwy wneud iddynt gymryd y bai am y diffyg yn y gyllideb,” meddai’r Cynghorydd Jarman. “Buasai’r hyn a wnaethant i weithwyr teyrngar y cyngor llynedd wedi peri i’r awdurdod lleol Ceidwadol mwyaf aden-dde wrido.

 “Gŵyr pawb ei bod yn amser heriol i lywodraeth leol, ond nid yw cyngor RCT fel petaent hyd yn oed wedi ystyried torri ar y brig: mae’n well ganddynt hwy wneud i’r rhai sydd leiaf abl i’w fforddio ysgwyddo’r baich.”

 Ymateb Llafur Cymru i ddilyn…