Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru wedi bod i ganolfan cynnal iaith y Maori draw yn Seland Newydd.
Yn ôl cyfrifiad yn 2006 mae 157,000 o bobl y wlad yn siarad Maori.
Cafodd Carwyn Jones glywed am y problemau sy’n wynebu’r rheiny sy’n ceisio hybu dwyieithrwydd yn Seland Newydd, yn ôl ei lefarydd.
“Mae’n hawdd gweld bod gan Seland Newydd a Chymru lawer yn gyffredin,” meddai Prif Weinidog Cymru.
”Mae Seland Newydd a ninnau yng Nghymru yn falch o’n treftadaeth a’r modd yr ydym yn diogelu’n hieithoedd.
“Mae Cymru yn genedl ddwyieithog ac rydym yn ymrwymo i roi mwy o le fyth i’r Gymraeg ym mywyd pob dydd y wlad.
“Mae’n ddiddorol iawn cael deall beth sy’n cael ei wneud yma yn Seland Newydd i hybu’r diwylliant cynhenid a dwyieithrwydd. Heb os, mae rhannu hanesion ynghylch ein profiadau o fudd i’r ddwy wlad.”
Bydd Prif Weinidog Cymru yn treulio’r penwythnos yn Seland Newydd ar wahoddiad Prif Weinidog y wlad honno.
Yfory mae’n cyfarfod carfan Cymru i ddymuno’n dda iddyn nhw ar gyfer eu gornest yn erbyn De Affrica.
Mi fydd Carwyn Jones yn y dorf ar gyfer y gêm honno, cyn hedfan adref.