Heddiw bydd miloedd o gardiau coch dwyieithog yn cael eu dosbarthu am ddim mewn llyfrgelloedd a swyddfeydd undebau credyd heddiw, er mwyn atgoffa pobol o’u hawliau wrth iddyn nhw shopio.

 Mae’r cerdyn coch yr un maint â cherdyn credyd, fel bod modd ei gadw’n handi mewn pwrs neu waled.

Arno mae cyngor ymarferol yn son am gyfrifoldebau’r unigolyn wrth brynu eitem mewn siop, sef:

  • Cadwch eich derbynneb bob amser;
  • Os bydd gennych gŵyn, cysylltwch â’r siop cyn gynted â phosibl;
  • Os byddwch yn newid eich meddwl, nid oes gennych hawl gyfreithiol i gael eich arian yn ôl;
  • Os byddwch yn prynu eitem unigol sy’n werth mwy na £100, gall talu drwy gerdyn credyd roi mwy o ddiogelwch i chi.

 Yn ôl dosbarthwyr y cardiau hyn – Llais Defnyddwyr Cymru a Phenaethiaid Safonau Masnach Cymru – mae’r fenter heddiw yn seiliedig ar fodel llwyddiannus yng Ngogledd Iwerddon lle mae dros 1.5 miliwn o gardiau wedi’u dosbarthu.

“Mae’r fenter hon yn ceisio grymuso defnyddwyr drwy roi ffordd ddefnyddiol iddynt gofio eu hawliau a’u cyfrifoldebau. Bydd y cardiau ar gael yn eang ledled Cymru, a gobeithio y byddant yn rhoi’r hyder i ddefnyddwyr fynnu’r gwasanaeth y maent yn ei haeddu,” meddai Maria Battle, Uwch Gyfarwyddwr Llais Defnyddwyr Cymru.

“Gwyddom fod problemau o ran prynu eitemau bob dydd fel dillad ac eitemau mwy o faint fel ffonau symudol, gliniaduron a setiau teledu yn aml ymhlith y deg cwyn fwyaf cyffredin a gyfeirir at Llais Defnyddwyr Cymru. Gellir cadw’r cardiau hyn yn eich pwrs neu’ch waled a gallant helpu pobl i fynnu eu hawliau,” ychwanegodd.