Pentref Blaenplwyf ar yr A487 (Nigel Callaghan CCA 2.0)
Mae priffordd yr A487 wedi agor unwaith eto yng Ngheredigion ar ôl bod ynghau dros nos.

Fe gafodd dyn ei ladd mewn damwain yn hwyr neithiwr rhwng pentrefi Blaenplwyf a Llanrhystud.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi gofyn am dystion i’r hyn a ddigwyddodd ychydig cyn hanner nos.

Dyma’r ddiweddara’ mewn nifer o ddamweiniau sydd wedi digwydd ar y rhan hwnnw o’r ffordd rhwng y de a’r gogledd.

Fe fu’r ffordd ynghau adeg y Pasg hefyd oherwydd damwain, gan greu anhrefn i’r drefn drafnidiaeth o amgylch Aberystwyth.