Ieuan Wyn Jones
Roedd Plaid Cymru wedi rhoi’r wlad o flaen ei buddiannau ei hun yn ystod y refferendwm a’r etholiad eleni, meddai ei harweinydd, Ieuan Wyn Jones.

Ac fe fydd yn dweud wrth gynhadledd y blaid yn Llandudno ei bod hi wedi talu rhywfaint o bris am hynny yn y bythau pleidleisio.

Dyna fydd y neges yn ei araith ola’n arweinydd, wrth i Blaid Cymru geisio dadansoddi pam ei bod wedi cael ei chanlyniad gwaetha’ mewn etholiad ers datganoli.

Diedifar

Ond fe ddywedodd Ieuan Wyn Jones wrth Radio Wales ei fod yn ddiedifar am y pwyslais ar y refferendwm a bod yna rai adegau pan oedd rhaid i blaid roi lles mwy o flaen ei lles ei hun.

Fe fydd hefyd yn rhoi neges i’r person a ddaw’n arweinydd yn ei le – bod rhaid i Blaid Cymru anelu i fod yn blaid mewn llywodraeth.

Mae cynigion yn y gynhadledd yn awgrymu na ddylai’r blaid fynd i glymblaid er mwyn llywodraethu.